OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2020 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau a ganlyn (“y Rheoliadau Arolygu”)—
(a) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(b) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,
(c) Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a
(d) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015.
Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Arolygu yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales gynnal arolygiad o leiaf unwaith o fewn y cyfnod o 7 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2016 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2023 (“y Cyfnod Arolygu Cyntaf”) ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod arolygu o 6 mlynedd wedi hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Cyfnod Arolygu Cyntaf ym mhob un o’r Rheoliadau Arolygu fel y bydd yn dod i ben ar 31 Awst 2024 yn lle 31 Awst 2023. Bydd pob arolygiad wedi hynny yn parhau i gael ei gynnal unwaith ym mhob cyfnod arolygu o 6 mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2020 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020
Gwnaed 16 Ionawr 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Ionawr 2020
Yn dod i rym 1 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([1]), a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000([2]), a chan adrannau 28(1)([3]), 50(4)([4]), 55(4)([5]) ac 56(3)([6]) o Ddeddf Addysg 2005([7]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg
(Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau
Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2020.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2. Yn rheoliad 2(1)(b) o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001([8])—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
3. Yn rheoliadau 6(1)(b) a 14(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006([9])—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
4. Yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006([10])—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015
5. Yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015([11])—
(a) yn lle “cyfnod o saith mlynedd” rhodder “y cyfnod”, a
(b) yn lle “2023” rhodder “2024”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2020
([1]) 1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 6B(1)(a) o Atodlen 26, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac mae’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
([2]) 2000 p. 21; gweler adran 77(9) am y diffiniad o “prescribed” ac adran 74(1) am y diffiniad o “the National Assembly”. Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adran 77(2), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
([3]) 2005 p. 18; gweler adran 31(1) am y diffiniad o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.
([4]) Gweler adran 50(8) am y diffiniad o “prescribed” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.
([5]) Gweler adran 55(8) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.
([6]) Gweler adran 55(8) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” ac adran 122(1) am y diffiniad o “the Assembly”.
([7]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 28, 50, 55 ac 56, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
([8]) O.S. 2001/2501 (Cy. 204), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/783 (Cy. 80), O.S. 2005/3238 (Cy. 243), O.S. 2010/1436 (Cy. 127), O.S. 2014/1212 (Cy. 128) ac O.S. 2016/135 (Cy. 65).
([9]) O.S. 2006/1714 (Cy. 176), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2010/1436 (Cy. 127), O.S. 2014/1212 (Cy. 128), O.S. 2016/135 (Cy. 65), O.S. 2016/211 (Cy. 84) ac O.S. 2017/710 (Cy. 167).